Diolch i bawb a ddaeth i Ysgol Babanod Glynrhedynog ar 25 Hydref i ddysgu rhagor ynglŷn â'r datblygiadau diweddaraf ac i ddweud eu dweud ynglŷn â beth sy'n digwydd nesaf.
Roedd yn wych clywed cyflwyniadau gan y gwasanaethau canlynol:
• Partneriaeth Fern
• Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Rhondda Cynon Taf
• Y Gwasanaeth Tân
• Cyfoeth Naturiol Cymru
Roedd y rheiny a ddaeth i'r achlysur wedi cymryd rhan mewn gweithdy i drafod cynllun cyffrous gwerth £10,000 gyda sefydliad Adnoddau Naturiol Cymru yn ardal Rhondda Fach Uchaf. Roedd yn gyfle gwych i gasglu barn a syniadau'r gymuned ynglŷn â sut i wella'r ardal leol – crynodeb ar gael
yma ac
Hawdd ei Darllen
Dyma ran fach o'r sgwrs rydyn ni eisiau ei chynnal gyda'r gymuned. Os ydych chi'n awyddus i fod yn rhan o'r cynlluniau yma, anfonwch e-bost at Louise:
l.clement@fernpartnership.co.uk a byddwn ni'n ychwanegu'ch enw at ein rhestr cysylltiadau fel eich bod chi'n clywed y newyddion diweddaraf ynglŷn â beth sy'n digwydd nesaf. Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhannu ar y wefan yma ac o gwmpas eich cymuned.