Ystadegau’n ysgogi’r Gwasanaeth i ganolbwyntio ar gamau gweithredu blaenoriaethol ar gyfer cymunedau de Cymru
Mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru wedi cyhoeddi ei Gynllun Gwella, sef “Ein perfformiad yn 2016/17 a’r hyn y bwriadwn ei wneud yn 2018/19”, sy’n amlygu’r gwahaniaethau a’r newidiadau – cadarnhaol a negyddol – sydd wedi digwydd o ganlyniad i’r gweithgareddau lleihau risg a’r gweithgareddau addysgol a gynhaliwyd gennym rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2017.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, aeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) i fwy na 17,300 o ddigwyddiadau, a gwelwyd gostyngiad 11.9% yng nghyfanswm nifer y tanau. Fodd bynnag, yn ystod yr un flwyddyn, mae’r Gwasanaeth wedi gweld cyfanswm nifer y marwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i bob tân yn cynyddu o 85 i 92. Mae GTADC hefyd wedi gweld 143 yn llai o Wrthdrawiadau Traffig Ffyrdd yn 2016/17 o gymharu â’r flwyddyn gynt.
Mae adolygu’r perfformiad hwn wedi ysgogi’r Gwasanaeth i ystyried ei themâu strategol a’i gamau gweithredu blaenoriaethol cysylltiedig er mwyn sicrhau bod cymunedau de Cymru yn cael eu cadw’n ddiogel rhag niwed. Mae’r cynllun hefyd yn amlinellu Amcanion Gwella arfaethedig y Gweithredu Blaenoriaethol 2018/19.
Dywedodd Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân, “Ein prif flaenoriaeth, bob amser, yw darparu ymateb effeithiol i’n cymunedau pan fydd arnynt ein hangen.”
Ychwanegodd Sally Chapman, Dirprwy Brif Swyddog, “Rydym ni wedi datblygu cynllun sy’n bodloni anghenion uniongyrchol ein sefydliad a’n cymuned heb beryglu cyfleoedd cenedlaethau’r dyfodol.”
Gellir gweld y Cynllun Gwella, gan gynnwys y rhannau hynny sy’n destun ymgynghoriad, ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru neu drwy anfon neges e-bost a lleisiadyfarn@decrymru-tan.gov.uk
Cymryd whan yn yr ymgynghoriad yma