Sut mae GGMT ac Interlink RhCT yn helpu eich sefydliad chi gyda gwaith rheoli gwirfoddolwyr, cyllido, llywodraethu a dylanwadu?
Mae Arolwg Effaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru 2019-20 wedi cael ei lansio, ac mae’n rhoi cyfle i chi roi gwybod i GGMT ac Interlink am yr effaith y mae gwasanaethau ym meysydd llywodraethu, cyllido, gwirfoddoli ac ymgysylltu a dylanwadu yn ei chael ar eich sefydliad chi.
Bydd GGMT ac Interlink yn dod i ddeall a ydym yn llwyddo, a bydd yn ein helpu i gynllunio tuag at y dyfodol. Felly, treuliwch ryw ddeng munud yn rhoi eich barn i ni ac yn ein helpu i ddysgu beth sy’n gweithio i chi a beth sydd ddim.
Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r trydydd sector yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Nod y rhwydwaith yw galluogi’r trydydd sector a gwirfoddolwyr ledled Cymru i gyfrannu’n llawn at lesiant unigolion a chymunedau, yn awr ac at y dyfodol.